Mae Abaty Ystrad Fflur ymysg saith o safleoedd ledled Prydain a fydd yn derbyn hwb ariannol i nodi pen-blwydd y Tywysog Charles yn 70 oed y mis yma.

Yn ogystal â diogelu adfeilion yr abaty ger Pontrhydfendigaid yng Ngheredigion, fe fydd yr arian yn mynd at greu canolfan dreftadaeth, crefftau a diwylliant ar y safle.

Y gobaith yw y bydd yn hwb i’r economi leol trwy greu swyddi’n ymwneud â hyfforddiant mewn crefftau gwledig, archaeoleg ac adnoddau addysg i ymwelwyr.

Ymysg y cynlluniau eraill i elwa o’r arian ‘7 for 70’, mae adfer neuadd dilladwyr yn Coventry, Dumfries House yn Swydd Ayr yn yr Alban, pwll nofio awyr agored yn ardal lofaol Cumnock, a Chastell Hillsborough yng Ngogledd Iwerddon.