Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael dirwy o £300,000 ar ôl i fachgen 15 oed farw wrth gael ei daro gan fws mini ei ysgol.

Roedd Ashley Talbot wedi cael ei ladd wrth iddo redeg ar draws y ffordd y tu allan y Ysgol Gyfun Maesteg.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod awdurdodau’r Cyngor wedi methu â gweithredu argymhellion eu hymgynghorydd diogelwch eu hunain i wella diogelwch i ddisgyblion, gyda rhai yn gorfod croesi’r ffordd brysur i ddal eu bws ysgol adref.

Roedd yr ymgynghorydd iechyd a diogelwch, Steven Nelson, wedi nodi problemau yng nghynllun yr ysgol cyn iddi agor yn 2008 o ran diogelwch gyda bysiau ysgol.

Gwrthododd y Cyngor â newid cynllun yr ysgol, ac o ganlyniad roedd bysiau’n parcio ar ddwy ochr y ffordd a thraffig yn cael symud rhyngddynt.

Cafodd Ashley ei ladd ar 10 Rhagfyr, 2014, ar ôl cael ei daro gan ei athro ymarfer corff, Christopher Brooks, a oedd yn teithio rhwng y bysiau wedi parcio.

Roedd yr athro yn gyrru ar gyflymder diogel, ac ni chymerwyd camau yn ei erbyn.

Methiannau

Mae Cyngor Pen-y-bont yn cydnabod ei fethiannau, a dywedodd ei fod yn edifar am yr amgylcheiadau a arweiniodd at farwolaeth Ashley a’i fod wedi adolygu risgiau iechyd a diogelwch yn ei holl safleoedd.

Dywedodd y Barnwr Eleri Rees y gellid bod wedi osgoi marwolaeth y bachgen a bod pryderon iechyd wedi cael eu hanwybyddu.

“Nid digwyddiad ar ei ben ei hun oedd hwn,” meddai. “Roedd dros 1,100 o blant yn gadael yr ysgol bob pnawn. Roedd nifer mawr o blant mewn perygl.”

Dywedodd cyfreithiwr ar ran rhieni Ashley, Jon a Melanie Talbot, eu bod yn flin nad yw Cyngor Pen-y-bont byth wedi ymddiheuro am farwolaeth eu mab.