Mae tri-chwarter o’r busnesau yng Nghymru a welodd y twf cyflymaf yn 2018 wedi elwa o gymorth gan Lywodraeth Cymru, yn ôl Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi.

Mae’r rhestr 50 Twf Cyflym, sy’n cael ei gyhoeddi’n flynyddol ers 1999, yn dathlu’r busnesau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru.

O’r 50 ar y rhestr eleni, cafodd 38 o gwmnïau eu cefnogi gan raglen gymorth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei hariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru.

Wrth groesawu llwyddiant y busnesau hyn, dywedodd Ken Skates:

“Os ydyn ni fel Llywodraeth i annog busnesau i gychwyn, datblygu a ffynnu, mae’n rhaid inni yn gyntaf sicrhau bod entrepreneuriaid a busnesau bach a chanolig yn cael yr wybodaeth, y cyngor a’r cymorth y maent eu hangen i lwyddo. Nid cystadlu am grantiau na benthyciadau yw hyn bob tro, yn wir, i nifer ohonynt, mae cymorth arbenigol neu gynlluniau busnes, marchnata neu farchnadoedd rhyngwladol yn llawer mwy gwerthfawr.

“Mae Busnes Cymru wedi cefnogi 24,500 o entrepreneuriaid a busnesau unigol ers dechrau’r rhaglen bresennol ym mis Ebrill 2015. Rhyngddynt, mae’r busnesau hyn wedi creu dros 12,000 o swyddi newydd ac wedi codi £210 miliwn mewn buddsoddiadau. Dwi’n gobeithio gweld y pecyn o gymorth sydd ar gael drwy Busnes Cymru yn dal i gael effaith bositif ar fusnesau sefydledig, newydd a phosibl yn y dyfodol wrth inni fynd i’r afael â heriau yfory gyda’n gilydd.”