Mae archfarchnad Morrsions wedi cael ei beirniadu am werthu cyw iâr o Wlad Tai mewn pecynnau sydd â baner Jac yr Undeb arnyn nhw.

Dim ond label fach ar gefn y pecynnau sy’n dangos bod y cig o Asia, ac mae’r addurniad Prydeinig ar eu blaen yn awgrymu eu bod o’r Deyrnas Unedig.

Mae’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Andrew RT Davies, wedi cyhuddo Morrisons o “gamarwain”, ac yn galw am ganllawiau labeli cliriach.

“Sarhaus”

“Mae hyn yn sarhaus i ffermwyr ledled Cymru,” meddai, “a dyw hi ddim yn iawn bod cynnyrch o du allan i’r Deyrnas Unedig yn cael eu labeli â’u gwerthu yn y fath modd.

“Dyw’r ieir yma heb groesi’r heol. Mae eu cig wedi dod o ben arall y byd! … Rhaid gweithredu er mwyn atal ‘cam-werthu’ yn y dyfodol.”

Daeth y mater i’r amlwg wedi i luniau gael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol. Mewn ymateb, dywedodd Morrisons wrth golwg360:

“Rydym yn ymddiheuro am y camgymeriad. Mae’r darnau cyw iâr yn y fideo hon wedi cael eu rhoi yn y bag anghywir ar ôl cael eu pobi yn y siop.”