Fe all diddymu tollau Pont Hafren gynyddu’r galw o Loegr am dai yng Nghymru, yn ôl adroddiad gan werthwyr tai.

Ar hyn o bryd mae gyrwyr ceir yn talu £5.60 i groesi’r bont; mae yn £11.20 ar gyfer faniau a bysus bychain, a £16.70 ar gyfer lorïau a bysus.

Bydd y tollau’n cael eu diddymu ar Ragfyr 17.

Yn ôl y cwmni gwerthwu tai Savills, mae disgwyl i brisiau tai yng Nghymru gynyddu bron 20% yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Mae’n bosib y bydd rhaniad rhwng de a gogledd, medden nhw, wrth i werth tai gynyddu yn gyflymach yng Nghymru, gogledd Lloegr a’r Alban nag ardaloedd fel Llundain.

Ledled gwledydd Prydain, mae disgwyl i brisiau tai ar gyfartaledd gynyddu 14.8% rhwng 2019 a 2023.

O safbwynt arian, fe all y cynnydd hwn ychwanegu tua £32,000 ar gyfartaledd i brisiau tai erbyn diwedd 2023 – gan gyrraedd cyfanswm o £248,086.

Yng Nghymru, fe all prisiau tai godi 19.3% yn ystod yr un cyfnod, er bod yr adroddiad yn cydnabod bod gan y wlad “farchnad eang” o ran tai.

“Cynnydd pellach yn niweidiol”

Ni fyddai cynnydd mewn prisiau tai yn newyddion da i’r iaith Gymraeg, meddai un mudiad.

“Mae’r prisiau tai eisoes yn ddrutach nag y mae pobl ar gyflogau lleol yn medru fforddio, felly byddai cynnydd pellach yn fwy niweidiol byth,” meddai Jeff Smith, cadeirydd grŵp cymunedau Cymdeithas yr Iaith.

“Byddai’n golygu bod nifer gynyddol o bobl yn wynebu trafferthion wrth geisio sefydlu cartref yn ei hardal leol, ac felly yn gorfod symud i ffwrdd. Mae’n rhaid cofio bod lefelau allfudo o Gymru yn argyfwng i’r iaith a’r economi; ac un o’r prif heriau i’r Gymraeg o ran colli siaradwyr.

“Mae’n hollbwysig felly bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar frys i leddfu effaith yr argyfwng tai ar gymunedau Cymru. Mae angen system sy’n sicrhau bod prisiau tai yn yr ardaloedd hyn yn adlewyrchu beth sy’n fforddiadwy i bobl leol. Mae hefyd angen cyfyngu ar nifer yr ail gartrefi mewn ardaloedd a chodi trethi uwch arnyn nhw.  Mae angen sicrhau hefyd bod efo ni’r math o dai sydd angen ar bobl leol ac yn y lleoedd cywir. Mae angen Deddf Eiddo i daclo’r holl broblemau hyn.

“Mae gwir angen trawsnewid y ffordd rydyn ni’n edrych ar y system eiddo: dylai tai fod yn gartrefi er lles pobl a chymunedau lleol yn hytrach na chynnyrch i’w gwerthu er mwyn gwneud cymaint ag elw â phosibl.”