Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi na fydd pobol yn cael carchar am beidio â thalu treth y cyngor o fis Ebrill 2019 ymlaen.

Dywed yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, fod yr arfer o garcharu pobol sy’n mynd i ddyled sifil yn “hen ffasiwn” ac yn “anghymesur”.

Mae’n ychwanegu bod y newidiadau y mae’n bwriadu eu cyflwyno i’r system bresennol yn golygu y bydd yna gyfathrebu “cadarnhaol” rhwng dinasyddion a chynghorau sir.

Bu ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater, gyda Llywodraeth Cymru’n derbyn 188 o ymatebion a oedd yn gefnogol i’w cynigion.

“Mae talu treth cyngor yn hanfodol er mwyn cynnal y gwasanaethau cyhoeddus yr ydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw bob dydd,” meddai Mark Drakeford.

“Fodd bynnag, mae’n iawn hefyd fod y rhai sy’n llai abl i gyfrannu yn cael eu trin yn deg a chydag urddas.”