Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y canllawiau newydd a fydd yn gwneud cau ysgolion cynradd yn ‘opsiwn olaf’, wedi dod yn “rhy hwyr”.

Daeth newidiadau i’r Cod Trefniadaeth Ysgolion i rym ddoe (dydd Iau, Tachwedd 2), ac maen nhw’n cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig.

I gyd-fynd â’r canllawiau newydd, mae Llywodraeth Cymru wedi creu rhestr sy’n cynnwys 219 o ysgolion sydd wedi’u categoreiddio’n “wledig”.

Ond yn ôl Suzy Davies, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Addysg, dylai’r newidiadau hyn fod wedi cael eu cyflwyno ynghynt, gan fod nifer o ysgolion bach gwledig eisoes wedi gorfod cau dros y blynyddoedd diwethaf.

‘Rhaid amddiffyn ysgolion bychain’

“Y gwirionedd yw bod y cam hwn wedi dod yn rhy hwyr i nifer o athrawon, disgyblion a rhieni,” meddai Suzy Davies.

“Wedi’r cyfan, mae tri allan o bob pump o ysgolion sydd wedi cau yng Nghymru wedi digwydd mewn ardaloedd gwledig rhwng 2006 a 2016.

“Wrth edrych tua’r dyfodol, mae angen i’r cod newydd amddiffyn ysgolion bychain, ac nid yn unig y rhai mwy o faint sy’n cael eu ffafrio gan Lywodraeth Cymru.

“Mae cefn gwlad Cymru wedi cael eu siomi gan ddau ddegawd o deyrnasiad Llafur Cymru – dydyn ni ddim am eu gweld yn cael eu siomi eto.”