Mae’r byd gwleidyddol wedi ymateb yn chwyrn ar y cyfryngau cymdeithasol i ddedfryd Simon Thomas, a blediodd yn euog i greu lluniau anweddus o blant.

Fe gafodd y cyn-Aelod Cynulliad ei ddedfrydu i 26 wythnos o garchar wedi’i ohirio am ddwy flynedd mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon yr Wyddgrug ddoe (dydd Mercher, Hydref 31).

Cyn hynny, roedd wedi pledio’n euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.

“Absẃrd”

Mae’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Andrew RT Davies – cyn-arweinydd y Toraid ym Mae Caerdydd – wedi beirniadu “ysgafnder y gosb” gan ddweud ei fod am herio’r drefn gyfreithiol ynglyn â hyn.

“Dw i wedi ysgrifennu at y Twrnai Cyffredinol a Gwasanaeth Erlyn y Goron i weld pa fecanwaith [cyfreithiol] y gallwn eu hadolygu,” meddai ar Twitter.

“Yn fy marn i, mae’r ddedfryd yn absẃrd o ystyried pa mor ddifrifol ac erchyll oedd y troseddau.”

“Dyw hyn ddim yn iawn” 

Mae’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy – a fu’n gyd-aelod o grŵp Cynulliad Plaid Cymru gyda Simon Thomas – wedi beirniadu’r ddedfryd yn hallt gan alw am “gyfiawnder” i ddioddefwyr.

“Dyw hyn ddim yn iawn,” meddai Neil McEvoy mewn neges ar ei gyfrif Twitter. “Sut mae’r ddedfryd yma yn amddiffyn plant?

“Sut allwch chi osgoi carchar pan ydych wedi prynu a chreu delweddau a fideos o gamdriniaeth eithafol o blant? Rhaid adolygu hyn.”

“Negeseuon anghywir”

Wrth leisio ei anfodlonrwydd ef, mae cyn-Aelod Seneddol Caerfyrddin, Gwynoro Jones, wedi cymharu’r achos â’r ddedfryd o garchar a ddyfarnwyd i gyfarwyddwyr cwmni bysus Express Motors ddoe.

“Mae’r ddedfryd yma yn danfon y negeseuon anghywir ac yn pardduo enw’r gyfraith,” meddai. “Mewn un dyfarniad, mae’r holl ymdrechion i amddiffyn plant wedi’u dad-wneud.

“Ar y llaw arall, mae grŵp o gyfarwyddwyr cwmni bysus yng ngogledd Cymru (mae un ohonyn nhw’n 77 oed) wedi derbyn dedfrydau rhwng saith mlynedd a hanner, a chwe blynedd, am dwyll.”

Yr achos

Roedd Simon Thomas yn Aelod Seneddol Plaid Cymru tros Geredigion am bum mlynedd, ac yn fwy diweddar fe gafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad tros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

Fe ymddiswyddodd, a gadael Plaid Cymru, ym mis Gorffennaf eleni. Fe gafodd ei arestio yn dilyn cyrch ar ei gartref, ac yna ei gyhuddo o fod â delweddau anweddus yn ei feddiant.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, roedd wedi creu 150 o ddelweddau Categori A; 103 o ddelweddau Categori B; a 359 o ddelweddau Categori C.