Mae cwmnïau cynhyrchu wedi mynegi eu siom na fydd Caerdydd yn un o ganolfannau newydd Channel 4.

Daeth cadarnhad y bydd pencadlys newydd y sianel yn Leeds, a bod canolfannau newydd yn cael eu sefydlu yn Glasgow a Bryste.

Mae’n rhan o ymdrechion y sianel i greu mwy o gynnwys y tu allan i Lundain.

Mewn datganiad, dywed TAC, y corff sy’n cynrychioli sector cynhyrchu teledu annibynnol Cymru, eu bod “wedi’u siomi” gan y penderfyniad.

“Fodd bynnag, nawr fod gan y darlledwr well ymwybyddiaeth o amrywiaeth a safon y cwmnïau cynhyrchu sy’n gweithio ledled Cymru, rydyn ni’n gobeithio daw rhagor o gyfleoedd i’r cwmnïau rheiny ddarparu cynnwys llwyddiannus a phoblogaidd i Chanel 4,” meddai’r cadeirydd, Gareth Williams.

“Edrychwn ymlaen at drafod eu strategaeth yn y maes hwn gyda nhw.”