Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bod yn fodlon cyfrannu at y gost o glirio tir halogedig yn Ynys Môn.

Daw hyn ar ôl i brofion a gafodd eu cynnal yn gynharach eleni ddangos bod yna lefelau uchel o arsenig a phlwm yn bodoli o dan eiddo ar ystâd Craig-y-Don, Amlwch.

Cafodd yr ystâd, sy’n cynnwys 112 o gartrefi, ei adeiladu yn yr 1950au ar safle’r hen waith smeltio, Gwaith Hills, a fu yno rhwng 1786 ac 1897, cyn troi’n ffatri gemegol.

Mae’n debyg bod 16 o gartrefi wedi cael eu heffeithio gan y tir halogedig, ac yn ôl Llywodraeth Cymru fe all y cemegau “beryglu” iechyd pobol. Maen nhw wedi ymrwymo i dalu am 60% o’r gwaith clirio, gyda Chyngor Sir Ynys Môn, sydd ag eiddo ar yr ystâd, yn talu am y gweddill.

Cymorth i bawb

“Mewn achosion pan nad yw’r llygrwr gwreiddiol yn bodoli bellach, perchennog neu feddiannydd yr eiddo sy’n gyfrifol fel arfer am dalu costau adfer y tir halogedig,” meddai Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd.

“Fodd bynnag, o gofio’r nifer o ffactorau neilltuol yng Nghraig-y-Don, roeddem yn teimlo ei bod yn briodol i’r Llywodraeth ddarparu cymorth ariannol ar gyfer y gwaith halogedig.