Mae awdur o Aberystwyth yn dweud bod ysgrifennu ei nofel ddiweddaraf ar gyfer oedolion wedi bod yn “farathon emosiynol”.

Yn ôl Meleri Wyn James, sy’n gyfrifol am y gyfres boblogaidd i blant, Na Nel!, mae’r nofel Blaidd wrth y Drws yn trafod ei hofn o’r nos a’r dirgelwch sy’n perthyn iddi.

“Fe ddechreues i sgrifennu’r nofel yma ryw ddeng mlynedd yn ôl,” meddai wrth golwg360. “Roeddwn i wedi symud i hen dŷ i fyw, a dw i wedi bod ofn y tywyllwch erioed.

“Ambell nosweth, roeddwn i’n dychmygu beth sydd y hwnt i’r waliau yn y coed a’r caeau, achos ry’n ni’n byw mewn ardal eitha’ gwledig.”

Dirgelwch y nos

Mae’r nofel ddirgelwch yn cynnwys “hunllef gwaethaf rhiant”, wrth i anifail rheibus ymosod ar ddau blentyn ifanc yn nwfn y nos.

Dywed yr awdures fod ganddi ddiddordeb mawr mewn straeon dirgelwch gwir, a bod darllen a chlywed am gathod mawr gwyllt yn byw yng nghefn gwlad wedi bod yn fan cychwyn i’r nofel.

“Yn ystod y broses o sgrifennu, fe wnaeth lynx ddianc o sŵ gyfagos, ac er nad ydw i ishe sôn am achosion penodol, pan mae math o bethe fel hyn yn digwydd, maen nhw’n dweud bod yr anifail wedi’i ddal neu ei ddifa, ond pwy a ŵyr beth sydd wedi digwydd,” meddai.

“Mi roedd pobol hefyd yn arfer cadw anifeiliaid gwyllt fel anifeiliaid anwes, ond wedyn yn 1976 fe ddaeth deddf i fodolaeth yn dweud nad oedd hawl gyda chi i wneud hynny, ac fe gafodd rai o’r anifeiliaid hynny eu rhyddhau i’r gwyllt.

“Fel awdur, rydych chi’n gofyn beth yw’r effaith ar hynny wedi bod…”

Dyma glip o Meleri Wyn James yn darllen darn o bennod agoriadol y nofel…