Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau bod y nifer uchaf erioed o’i gwsmeriaid ledled Cymru a Swydd Henffordd – 105,000 – yn derbyn cymorth ariannol gan y cwmni i dalu biliau dŵr.

Mae’r cwmni wedi ymrwymo i fuddsoddi o gwmpas £7m y flwyddyn o’i elw i roi cymorth i bobol sydd yn cael trafferthion talu biliau.

Dŵr Cymru yw’r unig gwmni dŵr sydd ddim yn blaenoriaethu elw yng Nghymru a Lloegr maen nhw’n arwain yn y diwydiant dŵr o ran cefnogaeth sy’n cael ei roi i gwsmeriaid.

Mae’r ffigyrau hyn yn cael eu cadarnhau fel i adroddiad diweddaraf Cyngor Defnyddwyr Dŵr, Dŵr i Bawb: Fforddadwyedd a Bregusrwydd yn y sector dŵr 2017/18 gael ei gyhoeddi heddiw (Hydref 30).

Blaenoriaeth i gwsmeriaid

“Rydym eisiau gwneud cymaint ag y gallwn i’n cwsmeriaid”, meddai Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones, “dyma pam ein bod yn rhoi £7 y flwyddyn o elw’r cwmni i gefnogi mwy na 100,000 o gwsmeriaid sydd ar incwm isel i dalu biliau dŵr.

“Rydym yn gweithio gyda bron i 200 o sefydliadau fel StepChange, Citizens Advice a Banc Bwyd Caerdydd i hyrwyddo tariffiau i defnyddwyr eu gwasanaethau.”