Fe fydd Llywodraeth Cymru yn elwa o fwy na hanner biliwn o bunnau ychwanegol,  meddai’r Canghellor Philip Hammond wrth gyflwyno ei Gyllideb heddiw.

Yn ogystal fe fydd £120m ar gyfer Cytundeb Twf Gogledd Cymru.

Mae’r cyhoeddiad heddiw hefyd yn cynnwys cefnogi darparu ffordd liniaru’r M4 yn ne Cymru a rhoi mwy o ryddid i awdurdodau lleol Cymru i adeiladu mwy o dai cyngor.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns bod y Gyllideb heddiw “yn dangos bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cefnogi dyfodol llewyrchus yng Nghymru”.

“Mae’r pecyn ehangach o gyhoeddiadau heddiw yn dangos ein bod ni’n cael y pethau pwysig yn iawn – cefnogi pobol sy’n gweithio’n galed a hybu  seilwaith allweddol,” meddai, cyn ychwanegu bod y dreth ar danwydd wedi ei rhewi am y nawfed flwyddyn yn olynol.

Fe fydd y Cyflog Byw hefyd yn codi yn 2019 i £8.21 yr awr, a’r Lwfans Personol cyn talu treth incwm yn cynyddu i £12,500 gyda’r trothwy ar gyfer y gyfadd uwch o dreth incwm yn codi i £50,000 ar yr un pryd.