Mae pum aelod newydd wedi cael eu penodi i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ôl yr Ysgrifennydd tros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Mae’r pum aelod yn cynnwys Catherine Brown a’r Athro Steve Ormerod, sydd wedi’u penodi am bedair blynedd, ynghyd â Julia Cherret, Dr Rosie Plummer a’r Athro Peter Rigby, sydd wedi’u penodi am dair blynedd.

Bydd yr aelodau newydd yn cymryd lle’r pum sydd ar fin gadael y Bwrdd, sef Dr Madeleine Havard, Andy Middleton, Dr Ruth Hall, Nigel Reader a Syr Paul Williams.

Mae pum person arall yn aelod o’r Bwrdd, yn ogystal â’r Cadeirydd dros dro, Syr David Henshaw, a gafodd ei benodi i’r swydd yn ddiweddar.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae bellach dri pherson ar y Bwrdd yn medru’r Gymraeg, ond y bwriad yw penodi person arall cyn diwedd y flwyddyn.

Mae Lesley Griffiths wedi gofyn i’r Panel Cynghori ar Asesu i edrych eto ar y rhestr o ymgeiswyr a oedd yn siarad Cymraeg yn rhugl er mwyn cyflawni’r nod hwn.

‘Gwaith pwysig iawn’

“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli, cynnal a defnyddio adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy, ac rwy’n ystyried ei swyddogaeth a gwaith ei Fwrdd yn bwysig iawn,” meddai Lesley Griffiths.

“Dw i’n falch o gyhoeddi’r aelodau newydd hyn i helpu’r sefydliad yn eu gwaith pwysig. Hefyd, hoffwn ddiolch i aelodau’r Bwrdd sy’n gadael am eu hymrwymiad a’u cefnogaeth i Gyfoeth Naturiol Cymru dros y blynyddoedd.