Mae angen atal Brexit a dod â llymder i ben, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar drothwy adroddiad y Gyllideb heddiw (dydd Llun, Hydref 29).

Mae’r blaid yng Nghymru yn disgrifio’r Gyllideb heddiw yn “gyfle euraidd” i sicrhau Cymru “decach a mwy ffyniannus”.

Maen nhw’n galw ar Lywodraeth Prydain i gyflwyno cynlluniau a fydd yn gweld y system dreth yn cael ei gwella, gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu’n well a Chymru’n cael y buddsoddiad sydd ei hangen arni.

“Dyw Cymru ddim yn y sefyllfa orau,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

“Allwn ni ddim dod yn wlad sy’n derbyn cynnydd mewn tlodi, digartrefedd a’r defnydd o fanciau bwyd.

“Mae’r Gyllideb hon yn gyfle euraidd i helpu cymdeithas lle does neb yn cael eu caethiwo gan dlodi.

“Drwy oedi a datrys cynlluniau’r Credyd Cynhwysol, darparu Cytundebau Tyfiant blaengar i ogledd a chanolbarth Cymru a dod â llymder i ben, fe all Llywodraeth Prydain wella bywydau pobol sydd angen cymorth ledled Cymru.”