Roedd tua 200 o bobol yn bresennol mewn gwylnos yn Rhuthun neithiwr (dydd Sul, Hydref 28) er mwyn cofio am dri bachgen ifanc a fu farw nos Wener.

Bu farw John Michael Jones, 18, a Leon Rice, 17, o Ruthun, a Colin Harnsby, 17,  o Fanceinion yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd rhwng Dinbych a Threfnant nos Wener ddiwethaf (Hydref 26).

Mae pedwar person arall yn yr ysbyty, gyda thri ohonyn nhw ag anafiadau difrifol.

Cofio

Roedd yr wylnos neithiwr yn cynnwys confoi o lorïau a thractorau, ac mae’n debyg bod teuluoedd y ddau fachgen o Ruthun yn bresennol.

Mae’r ddau deulu bellach wedi cyhoeddi teyrngedau i’w hanwyliaid wedi’r ddamwain.

Dywedodd teulu John Michael Jones: “Roedd yn fodlon gwneud unrhyw beth i unrhyw un ac roedd gyda’r person mwyaf caredig i unrhyw un ei nabod.

“Byddwn ni’n ei golli’n fawr ac rydym wedi torri ein calonnau. Bydd bywyd byth yr un fath eto.

Yn ôl teulu Leon Rice wedyn: “Roedd yn cael ei adnabod a’i hoffi yn yr ardal leol gan nifer o bobol ac fe fydd yna golled ar ei ôl.

“Roedd Leon a Michael yn ffrindiau gorau ac mae colli’r ddau mewn digwyddiad mor drychinebus yn wir dristwch.”

 “Sioc”

Yn ôl cynghorydd lleol, mae’r gymuned yn Rhuthun wedi cael “sioc ofnadwy”.

“Roedd cyfeillion y ddau fachgen o Ruthun a’u cyfaill o Fanceinion yn awyddus i ddangos eu cefnogaeth i deuluoedd y tri fu farw o ganlyniad i’r ddamwain erchyll nos Wener,” meddai Emrys Wynne wrth golwg360 yn dilyn yr wylnos.

“Mae’r gymdeithas gyfan yn teimlo’r golled, ac roedd yr wylnos neithiwr yn gyfle i’r cyfeillion ddangos cefnogaeth i’r tri theulu, yn ogystal â theuluoedd y rhai a anafwyd yn y ddamwain.”