Dydy rhai aelodau o staff yn ffatri geir Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddim yn y gwaith yr wythnos hon yn sgil ansicrwydd tros ddyfodol y safle.

Mae dros 1,500 o weithwyr yn cael eu cyflogi yn y ffatri, ac mae’n un o brif gyflogwyr y dref a Chymru gyfan.

Mae’r staff sy’n gweithio ar yr injan Jaguar newydd wedi cael gwybod na fydd eu hangen am bum niwrnod, gan y bydd y gwaith yn dod i ben yno rhwng Dydd Llun, Hydref 29 a Thachwedd 2. Ond byddan nhw’n cael eu talu am y cyfnod dan sylw serch hynny.

Mae’r staff wedi derbyn llythyr yn egluro’r sefyllfa, ond doedd swyddogion undebau ddim yn ymwybodol o’r datblygiad ymlaen llaw.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yr Aelod Cynulliad lleol, yn galw am sicrwydd mai cam dros dro yn unig yw hwn.

Daeth rhybudd yr wythnos ddiwethaf y gallai Brexit effeithio ar ddyfodol y cwmni yng ngwledydd Prydain.