Mae Llywodraeth Cymru’n pwyso ar Lywodraeth Prydain i roi terfyn ar lymder, ac am roi hwb ariannol i wasanaethau cyhoeddus a’r economi.

Yn ei lythyr at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, mae Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford yn amlinellu nifer o flaenoriaethau i Gymru ar drothwy Cyllideb y Canghellor, Philip Hammond ddydd Llun (Hydref 29).

Mae’r blaenoriaethau hynny’n cynnwys:

  • gwireddu ei haddewid na fydd Cymru’n colli ceiniog o gyllid yn sgil y penderfyniad i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd
  • gwella ein gallu i fenthyca er mwyn cefnogi ein blaenoriaethau buddsoddi
  • sicrhad y bydd y costau sy’n deillio o’r cytundebau cyflog a’r newidiadau diweddar i bensiynau yn cael eu cyllido’n llawn
  • parhau i gydweithio’n adeiladol ar y pedwar syniad am drethi newydd
  • cydnabod adroddiadau gan arbenigwyr a gwrthdroi’r penderfyniad i beidio â datganoli’r Doll Teithwyr Awyr i Gymru
  • mynd i’r afael â’r tanfuddsoddi sylweddol yn seilwaith rheilffyrdd Cymru ac ymrwymo i roi cyfran deg o gyllid rheilffyrdd i Gymru.

“Rydyn ni wedi galw dro ar ôl tro am roi terfyn ar bolisi cyni Llywodraeth y DU, sydd wedi methu,” meddai Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford.

“Er fy mod yn rhoi croeso gofalus i awgrym Prif Weinidog y DU yn ddiweddar bod y cyfnod o gyni yn dod i ben, rwy’n edrych ymlaen at glywed beth fydd hyn yn ei olygu’n ymarferol.

“Mae’n bryd i Lywodraeth y DU gynyddu gwariant cyhoeddus i fodloni’r galw cynyddol am wasanaethau cyhoeddus ac i ddad-wneud y difrod sydd wedi’i achosi gan ddegawd o doriadau.

“Mae pwysau sylweddol o hyd ar yr adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn seilwaith. Rydyn ni eisoes yn gwneud defnydd llawn o’n gallu i fenthyca, ond er mwyn parhau i gyflawni ein blaenoriaethau buddsoddi mae angen inni weld cynnydd yng Nghymru.

“Rydyn ni wedi bod yn galw’n gyson am roi terfyn ar y cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus, felly mae’r cyhoeddiadau ynghylch cytundebau cyflog dros 1% i’w croesawu. Rydyn ni’n disgwyl nawr i Lywodraeth y DU ddarparu’r cyllid angenrheidiol – i bob grŵp yn y gweithlu – rhag i’r cynnydd mewn cyflogau effeithio ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.”

Ar ôl Brexit

Mae Mark Drakeford hefyd yn pwyso ar Lywodraeth Prydain i sicrhau bod Cymru’n cael ei chyllido i’r un graddau ag o’r blaen ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd, heb unrhyw frigdorri nac amodau.

“Mae’r ansicrwydd ynglŷn â Brexit yn parhau i lesteirio rhagolygon twf Cymru a’r DU gyfan,” meddai.

“Mae Adroddiad y Prif Economegydd a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn yn nodi, yn unol â barn nifer o arbenigwyr annibynnol, y gallai ein heconomi fod wedi crebachu tua 2 y cant yn barod yn sgil canlyniad y refferendwm.

“Mae’n debygol y byddai Brexit heb gytundeb yn drychinebus i economi Cymru.

“Rwy’n disgwyl i Lywodraeth y DU wireddu’r addewid a gafodd ei wneud yn y refferendwm na fyddai Cymru’n colli ceiniog yn sgil y penderfyniad i ymadael â’r UE.

“Rhaid sicrhau nad yw hyn yn mynd ag arian oddi wrth ein cymunedau nac yn cyfyngu ar ein gallu i barhau i fuddsoddi yn economi a phobl Cymru.”