Mae Heddlu’r Gogledd wedi enwi’r tri fu farw mewn gwrthdrawiad ger Dinbych neithiwr (nos Wener, Hydref 27).

Cawson nhw eu galw i’r gwrthdrawiad rhwng Vauxhall Corsa a Vauxhall Antara ar y ffordd rhwng Trefnant a Dinbych toc cyn 7.30yh.

Roedd John Michael Jones, 18, a Leon Rice, 17, yn dod o Ruthun, a Colin Hornsby, 17, yn dod o Droylsden ger Manceinion.

Roedd y tri yn teithio yn y Vauxhall Corsa.

Cafodd llanc 16 oed oedd yn teithio yn y Vauxhall Corsa ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd, ac yna i Lerpwl ag anafiadau difrifol.

Mae dyn 19 oed yn Ysbyty Glan Clwyd ag anafiadau difrifol.

Mae’r dyn 66 oed oedd yn gyrru’r Vauxhall Antara yn Ysbyty Glan Clwyd â mân anafiadau, a dynes 68 oed oedd yn teithio yr un car yn yr un ysbyty ag anafiadau difrifol.

Teyrnged i Colin Hornsby

Mae teulu Colin Hornsby o Droylsden wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud bod “ei holl deulu a’i ffrindiau yn ei garu”.

“Roedd e’n caru bywyd, cerddoriaeth a’i ddillad brand. Bydd colled ar ei ôl ymhlith ei deulu a’i ffrindiau, a fydd ein bywydau fyth yr un fath eto hebddo.”

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.