Mae Gweinidogion Iechyd Cymru a’r Alban yn galw am ymestyn cynllun ymgartrefu gweithwyr iechyd ôl-Brexit i’w teuluoedd hefyd.

Mewn llythyr gan Vaughan Gething a Jeane Freeman at Weinidog Mewnfudo San Steffan, Caroline Nokes, maen nhw’n mynegi pryderon am nad yw teuluoedd gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol wedi’u cynnwys yng nghynllun peilot Setliad yr Undeb Ewropeaidd y Swyddfa Gartref sydd ar fin dechrau.

Yn ôl y ddau, byddai cynnwys teuluoedd gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn y cynllun yn helpu i ddileu peth ansicrwydd, ac yn anfon neges am eu cyfraniad gwerthfawr i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled gwledydd Prydain.

Eu pryder yw fod y drefn bresennol yn debygol o droi pobol i ffwrdd yn hytrach na’u hannog i wirio’u statws yn yr Undeb Ewropeaidd cyn i Brydain ymadael ar 29 Mawrth y flwyddyn nesaf.

Maen nhw’n galw ar Lywodraeth Prydain i newid eu safbwynt, gan rybuddio na fydd llywodraethau Cymru na’r Alban yn hyrwyddo’r cynllun peilot fel arall.

‘Elfen o sicrwydd’

Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething: “Hoffem allu rhoi elfen o sicrwydd i staff o’r Undeb Ewropeaidd sy’n gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, a’u teuluoedd.

“Maen nhw’n haeddu hynny o leiaf, ac rydyn ni’n talu teyrnged i’r bobl sy’n dod o’r UE ac o lefydd eraill i ddarparu gofal i bobl Cymru a rhoi triniaethau sy’n achub bywydau.

“Mae’r cynigion hyn yn hollol anfoddhaol ar eu ffurf bresennol. Maen nhw’n ychwanegu at y teimlad o rwystredigaeth fawr sydd wedi’i achosi gan y diffyg ymgysylltu ystyrlon gyda ni ynglŷn â’r ystod eang o heriau fydd yn wynebu’r GIG drwy’r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit.

“Os na fydd Llywodraeth y DU yn newid ei meddwl ac yn gwneud y penderfyniad iawn, fyddwn ni ddim yn hyrwyddo’r cynllun yng Nghymru, er y bydd cyfle i staff iechyd a gofal cymdeithasol wneud cais am statws preswylydd sefydlog fel rhan o’r cynllun peilot os byddant yn dymuno gwneud hynny.”