Mae Guto Bebb wedi ymateb i lun ohono â’i lygaid ar gau yn Nhŷ’r Cyffredin, gan fynnu mai gwrando yn astud oedd o – nid cysgu.

Cafodd y llun o Aelod Seneddol Aberconwy â’i lygaid ar gau ei bostio ar Facebook echdoe, a’i rannu 453 o weithiau. Mae 86 o bobol wedi gadael sylw, a 189 wedi gadael ‘ymateb’.

Cafodd y llun ei bostio gan ŵr o’r enw Glyn Bailey, ac ar lun cefndir ei gyfrif Facebook mae’r neges “Pleidleisiwch tros Emily Owen” – hi yw’r ymgeisydd Llafur yn Aberconwy.

“At sylw pobol Aberconwy!!!!” meddai’r post ar Facebook, “Dyma eich Aelod Seneddol yn gweithio’n galed tros ei etholaeth.”

Yn ôl yr Aelod Seneddol Ceidwadol, mae’r llun yn hen – mae’n eistedd ar fainc gefn yn y llun, ond nid yw wedi eistedd yno ers blynyddoedd, meddai – ac yn gamarweiniol.

“Os wnewch chi edrych yn ofalus, un o’r pethau mae rhywun yn gwneud yn Nhŷ’r Cyffredin weithiau ydy trio clywed y speakers sydd yn y meinciau,” meddai wrth golwg360.

“Er mwyn gwneud hynny mae’n rhaid i chi fynd lawr yn y sedd. Wedyn, ydy, mae’n edrych yn lun reit ddifyr … Ond, mae’n lun sy’n mynd yn ôl i 2014, a galla i sicrhau mai gwrando oeddwn i, ddim cysgu.

“Ac i bobol sy’n meddwl yn wahanol, dydy o ddim yn poeni llawer arna i. Ond doedd o’n ddim byd i’w wneud gyda Brexit!”

Ymddiswyddiad

Ymddiswyddodd Guto Bebb o’i rôl yn Weinidog Caffaeliad Amddiffyn ym mis Gorffennaf, wedi i’r Prif Weinidog, Theresa May, gyfaddawdu i aelodau o’i phlaid tros fesur Brexit.

Tri mis yn ddiweddarach, dyw’r Aelod Cynulliad ddim yn edifarhau, ac mae’n atseinio gofidion a leisiodd wrth ymddiswyddo.

“Mae gen i’r parch mwyaf at y Prif Weinidog,” meddai. “Dw i’n meddwl bod ei dyfalbarhad a’i hymroddiad hi a’i bodlonrwydd hi i gymryd y fath o abuse mae hi’n dioddef yn wirioneddol anhygoel.

“Ond dw i yn teimlo bod y penderfyniad yn ôl yng Ngorffennaf i gymryd y gwelliannau gan yr ERG (Grŵp Ymchwil Ewropeaidd – Brexiteers brwd) wedi tanseilio safle’r Prif Weinidog yn sylweddol.

“Oherwydd mae’n awgrymu i ni nad oes modd i’r Prif Weinidog lwyddo i gael cytundeb ar sail rhywbeth tebyg i’r hyn mae hi wedi cyhoeddi yn y papur gwyn – sef [ei chynlluniau Brexit] Chequers.”

Bregus?

Gwnaeth Theresa May gyfarfod ag aelod o Bwyllgor 1922 – pwyllgor o Dorïaid – ddydd Mercher ac roedd rhai yn disgwyl iddi wynebu amser caled.

Roedd Guto Bebb yn y cyfarfod hwnnw ac mae’n dweud mai dyna oedd ei “perfformiad gorau … ers cryn dipyn.” Mae’r Aelod Seneddol yn ffyddiog am ei dyfodol.

“Dw i’n derbyn bod ei sefyllfa yn hynod o anodd, nid oherwydd unrhyw beth i wneud â’i harweinyddiaeth hi, ond oherwydd ein bod ni’n gofyn iddi wneud yr amhosib.

“Rydym yn gofyn iddi drio cadw’r ffin feddal yn Iwerddon. Ond rydym yn trio gwneud hynny wrth gadw’r DUP [Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd] yn gefnogol i’r Llywodraeth, ac wrth beidio â rhoi gwarant tymor hir i’r undeb Ewropeaidd er mwyn cadw’r ERG yn hapus.

“Felly mae’r sefyllfa mae hi’n wynebu yn anodd iawn, ond o ran ei harweinyddiaeth a’i dyfodol yn Brif Weinidog [mae hi’n saff].”