Mae Prifysgol Bangor yn cael ei chyhuddo o ddangos ffafriaeth tuag at Ysgol y Gymraeg.

Yn ôl Llywydd Undeb Prifysgol a Choleg Bangor mae’r cynnig i ail-strwythuro Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor  yn annheg.

Yn 2017, unwyd nifer o ysgolion academaidd gwahanol er mwyn creu ‘Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth’.

Ystyriwyd y posibilrwydd y gallai Adran y Gymraeg fod yn rhan o’r ysgol newydd hon.

Ond mae rheolwyr Prifysgol Bangor yn ffafrio ailenwi Ysgol y Gymraeg yn ‘Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd’, a’i chadw ar wahân i’r Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth.

Yn ôl llefarydd y Brifysgol: “Bydd hyn yn tanlinellu’r bri a roddir ar ei gwaith dysgu a’i hysgolheictod yma yng Nghymru ac ym maes astudiaethau Celtaidd yn rhyngwladol.”

“Annheg”

Yn ôl Penny Dowdney, Llywydd Undeb Prifysgol a Choleg Bangor, nid oes gan Ysgol y Gymraeg ddigon o fyfyrwyr i gyfiawnhau ei chadw ar wahân.

“Mae’r syniad o gael Ysgol y Gymraeg yn annibynnol wedi cael ei gynnig”, meddai wrth golwg360, “ond yn wleidyddol mae’n lletchwith oherwydd y diffyg myfyrwyr”.

Ychwanegodd ei bod hi’n “annheg bod Ysgol y Gymraeg yn cael ei thrin yn wahanol” i adrannau eraill.

“Rydym yn brifysgol ddwyieithog ac mae gennym arbenigedd yn hynny, ond mae’n anodd pan mae myfyrwyr eraill ac adrannau eraill yn cael eu gadael i lawr a’u trin yn wahanol.

“Mae llawer yn poeni oherwydd ein bod wedi bod trwy ad-drefniant y llynedd ac roedd dewisiadau wedi eu gwneud, a rŵan mae’r rheiny yn cael eu dadwneud.”

Dim penderfyniad terfynol

Mae Prifysgol Bangor dan bwysau i arbed miloedd o bunnau.

Y llynedd bu yn rhaid arbed £8.5 miliwn, ac eleni mae angen torri £5 miliwn wrth i nifer y myfyrwyr leihau a chostau cyflog a phensiwn gynyddu.

O ran Ysgol y Gymraeg, “er nad oes penderfyniad terfynol wedi ei wneud eto” o ran ei dyfodol, yn ôl llefarydd y Brifysgol, “yr opsiwn a ffafrir yn dilyn yr ymgynghoriad yw ailenwi’r Adran yn ‘Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd’.

“Bydd hyn yn tanlinellu’r bri a roddir ar ei gwaith dysgu a’i hysgolheictod yma yng Nghymru ac ym maes astudiaethau Celtaidd yn rhyngwladol.”

Ymateb y myfyrwyr Cymraeg

Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor o blaid creu adran Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

“Mae Undeb y Myfyrwyr wedi bod yn rhan o gynnal ymgynghoriad gyda’r myfyrwyr ynghylch sefydlu ‘Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd’,” meddai llefarydd.

“Yn dilyn ymateb cadarnhaol gan fyfyrwyr, rydym yn gefnogol dros sefydlu ‘Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd’ ac yn hyderus y bydd y Brifysgol yn gwrando ar lais myfyrwyr yn y broses.”