“Nid ymgais i dynnu sylw” yw’r pabi gwyn, ond cyfle i ddechrau trafodaeth am heddwch, meddai cynrychiolydd mudiad sy’n gwerthu’r blodyn gwyn at Sul y Cofio eleni.

Awel Irene yw ysgrifennydd, Cymdeithas y Cymod, a thros y mis nesaf bydd y grŵp yn cynnal ymgyrch i dynnu sylw at bwysigrwydd gwisgo’r blodyn i gofio am bobol ddiniwed ledled y byd sydd wedi’u lladd mewn rhyfeloedd.

Ond mae’r blodyn wedi dod dan y lach yn ddiweddar, gyda’r Aelod Seneddol Ceidwadol, Johnny Mercer, yn ei alw’n “lol” ac yn “ymgais i dynnu sylw” oddi wrth y pabi coch sy’n cael ei werthu gan y Lleng Brydeinig.

“Dw i’n credu bod y pabi gwyn yn gwneud safiad sydd yn mynd i herio’r pabi coch,” meddai wrth golwg360, “ac mae hynny’n beth iach. Mae’n rhan o’r drafodaeth sydd angen ei chael. Mae angen gwneud safiad.

“Mae’r pabi gwyn yn sefyll dros bobol sydd wedi colli anwyliaid trwy’r byd – nid jest rhai o’r wlad yma,” meddai wedyn. “Dyw’r pabi ddim yn gysylltiedig â milwyr yn unig. Mae i w wneud â rhai fu farw mewn ffyrdd eraill yn ystod y rhyfeloedd. Nid rhywbeth gwladgarol.

“I ni, mae cymaint yn dioddef yn sgil rhyfeloedd ei fod yn andros o bwysig i bob un wnaeth dioddef yn hytrach na jest un garfan.”

Coch a gwyn 

Eleni, fe fydd Awel Irene yn gwisgo dau babi – un coch ac un gwyn – a dydi’r naill ddim yn gwrthddweud y llall, meddai.

“Mae’r busnes o wisgo emblem yn gallu creu rhaniadau rhwng pobol, ac mi fasa’n llawer gwell os fasan ni’n gallu dod o hyd i ddulliau o gael gwared â rhyfel.

“Rydan ni angen dod at ein gilydd i greu byd gwell trwy gefnogi pethau mae’r Cenhedloedd Unedig yn gwneud, a bod yn rhan o’r drafodaeth fyd-eang.

“Ond mae gwisgo dau babi – coch a gwyn – gyda’i gilydd yn pwysleisio’r ffaith ein bod ni’n coffau pobol o bob gwlad.”

Coch a phorffor a gwyn a du

Yn ogystal â’r pabi coch mae yna bopis porffor i goffau’r ceffylau a gafodd eu defnyddio yn y Rhyfel Byd Cyntaf; ynghyd â’r pabi du i goffau milwyr croenddu sydd wedi’u lladd mewn rhyfeloedd.