Mae angen i’r diwydiant ceir grebachu wedi Brexit yn yr un ffordd ag y digwyddodd i glo yn yr 1980au, meddai arbenigwr ar yr economi – mewn clip fideo sy’n cael ei gylchredeg gan wrthwynebwyr gadael

Ar y clip o 2012, mae’r Athro Patrick Minford, o Brifysgol Caerdydd, yn rhybuddio bod raid gwarchod y diwydiannau gweithgynhyrchu ar ôl i Brydain ymadael â’r Undeb Ewropeaidd – ac mae’n dadlau fod goroesi yn golygu “esblygu” – a bod hynny’n golygu mynd yn llai.

“Os ydych chi’n mynd i arbed ac amddiffyn ein diwydiannau,” meddai Patrick Minford, “mae’n rhaid i chi addasu’r sefyllfaoedd sy’n eu hwynebu nhw. Dw i’n credu bod hynna yn berffaith wir.

“A trwy hynny, dw i’n golygu y bydd yn rhaid iddyn nhw grebachu, yn yr un ffordd ag y crebachodd y diwydiannau glo a dur.

“Mae’r pethau yma yn digwydd wrth i esblygiad ddigwydd o fewn ein heconomi. Ac yn y tymor hir, mae hynny o fudd i chi.”

Gwrando

Fe wnaeth ei sylwadau gerbron Aelodau Seneddol, ac mae wedi ei ailgyhoeddi wrth i’r tensiynau ddwysáu ymhellach tros ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd.

Mewn erthygl i bapur The Daily Express mae Jacob Rees-Mogg – Aelod Seneddol Torïaidd sy’n frwd o blaid Brexit – wedi dweud “y dylen wrando ar [Patrick Minford]”.