ydd dros £11m yn cael ei wario er mwyn darparu offer sganio newydd i ysbytai yng Nghymru.

Yr ysbytai fydd yn derbyn sganwyr MRI newydd fydd Ysbyty Singleton, Abertawe; Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd dau o’r ysbytai yn derbyn y sganwyr newydd erbyn 2019, ond fydd Ysbyty Bronglais ddim yn derbyn un nes 2020.

“Mwy dibynadwy”

“Bydd yr offer sganio newydd a gyhoeddwyd heddiw yn fwy dibynadwy, gan roi mwy o foddhad i’r cleifion a gohirio llai o lawdriniaethau,” meddai Vaughan Gething.

“Mae technoleg well yn gweithio’n gynt hefyd sy’n golygu y bydd y byrddau iechyd yn gallu sganio rhagor o gleifion.

“Mae hyn oll yn newyddion da i gleifion ac rwy’n falch y bydd y swm sylweddol o gyllid a gyhoeddwyd gennyf heddiw yn gwneud gwahaniaeth i wasanaethau iechyd ledled Cymru.”