Mae cynghorydd lleol yn dweud bod colli gwasanaeth swyddfa bost yn Llanbedr Pont Steffan am gyfnod o bron pythefnos wedi bod yn “drafferth” i bobol leol.

Ers i’r hen swyddfa bost yng nghanol y dref gau rai blynyddoedd yn ôl, mae’r gwasanaeth wedi bod yn cael ei redeg o’r siop Co-op lleol.

Ond yn dilyn Storm Callum yn gynharach yn y mis, mae’r archfarchnad wedi bod ynghau oherwydd difrod a gafodd ei achosi gan lifogydd.

Mae dros wythnos ers hynny, ac mae Co-op wedi cadarnhau na fyddan nhw’n ailagor tan ddiwedd yr wythnos (dydd Sadwrn, Hydref 27).

“Bach o golled”

“Wrth gwrs, mae wedi bod yn drafferth, ond doedden nhw [Co-op] ddim wedi gallu gwneud dim byd ambwyti fe,” meddai Elin T Jones, sy’n aelod o’r cyngor tref, wrth golwg360.

“Fe wnes i roi neges mas yn dweud os oedd rhywun eisiau help [i gyrraedd swyddfa bost arall] i gysylltu â fi.”

Er bod swyddfeydd post yn Llanybydder a Phentre-bach ger Llanwnnen, mae rhai ar y cyfryngau cymdeithasol yn gresynu nad oes gwasanaeth symudol wedi’i drefnu ar gyfer Llanbed.

“Mae wedi bod yn bach o golled,” meddai Elin T Jones ymhellach. “Mae pobol wedi colli allan o fynd i’r swyddfa bost ac hefyd i fynd i siopa.

“Mae parcio am ddim i lawr yn fan’na, ac mae’n rhaid talu yn Sainsbury’s, felly dyw e ddim wedi rhoi’r dewis i bobol.”