Mae S4C wedi cyhoeddi manylion dathliad hanner canmlwyddiant cystadleuaeth Cân i Gymru y flwyddyn nesaf.

Mae Margaret Williams, Bryn Fôn, Caryl Parry Jones ac Elin Fflur ymhlith yr artistiaid sydd wedi ennill y gystadleuaeth a gafodd ei lansio yn 1969.

Bydd yr hanner canfed cystadleuaeth yn cael ei lansio’n ffurfiol ar 2 Tachwedd, a hynny’n fyw ar raglen Heno o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, lle bydd Cân i Gymru 2019 yn cael ei chynnal.

Fe fydd gwahoddiad gan Elin Fflur ar y rhaglen i gyfansoddwyr gyfansoddi cân ben-blwydd arbennig. Enillodd hi’r gystadleuaeth yn 2002 wrth ganu’r gân Harbwr Diogel.

Dywedodd y gantores, “Mae Cân i Gymru yn ddigwyddiad mawr ac mae’r dathliadau 50 yn ei gwneud hi’n fwy arbennig. meddai Elin, a enillodd y gystadleuaeth yn 2002 wrth ganu’r gân Harbwr Diogel.

“Dwi wedi clywed am lot o bobl yn cael parti Cân i Gymru, sy’n wych dwi’n meddwl. Ac wrth gwrs, mae pobl wrth eu boddau’n trydar ac yn dilyn Twitter yn ystod y rhaglen.

“Mae Cân i Gymru wedi newid ac addasu i gynulleidfaoedd dros y blynyddoedd ac mae llwyddiant y gystadleuaeth yn amlwg gyda niferoedd cystadlu ar ei uchaf ers blynyddoedd – dyna pam mae’r rhaglen wedi bod mor llwyddiannus. Dwi wir yn credu y byddwn ni’n dathlu canmlwyddiant Cân i Gymru!”

Dathliad arbennig

Dywedodd Siôn Llwyd o gwmni Avanti sy’n cynhyrchu’r rhaglen ar gyfer S4C y bydd y cyfle am ddathliad arbennig, gan edrych yn ôl dros hanner canrif o’r gystadleuaeth.

“Rydym wrthi’n paratoi rhaglen ddogfen i ddarlledu ar y noson cyn y gystadleuaeth ar Nos Wener, 1 Mawrth. Byddwn yn cyfweld â nifer o bobl sydd wedi ennill y gystadleuaeth yn y gorffennol. Rydym yn siarad â’r ffans – y bobl sy’n mwynhau Cân i Gymru ac ambell un sydd wedi barnu’r gystadleuaeth dros y blynyddoedd.

“Byddwn yn edrych ar hanes y gystadleuaeth – y bwriad gwreiddiol gan y diweddar Dr Meredydd Evans oedd cael Cymru mewn i’r Eurovision. Yn anffodus nid oedd yn llwyddiannus, ond mae’r gystadleuaeth wedi parhau ac yn dal i fod mor boblogaidd heddiw.”

Mae cystadleuaeth Cân i Gymru wedi cael ei chynnal ers 1969 ac mae’n gyfle i gyfansoddwyr gynnig caneuon gwreiddiol am gyfle i ennill gwobr ariannol a theitl Cân i Gymru. Y gantores enwog Margaret Williams enillodd y Cân i Gymru gyntaf yn 1969 gyda’r gân ‘Y Cwilt Cymraeg’.

Y dyddiad cau ar gyfer Cân i Gymru 2019 yw 4 Ionawr  am 5 o’r gloch.