Fe fydd datblygwyr fflatiau ym Mae Caerdydd yn adnewyddu cladin ar yr adeiladau ar ôl methu profion diogelwch tân.

Mae Bellway wrthi’n adeiladu chwe bloc yn Prospect Place yn y brifddinas, lle bu ffrae tros bwy fyddai’n talu am dynnu’r cladin gwreiddiol.

Y blociau newydd sydd wedi’u heffeithio yw Alderney House, Caldey Island House, Breakwater House, Dovercourt House, Eddystone House a Pendeen House.

Mae Gweinidog Tai Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans wedi croesawu’r newyddion sy’n dod ar ôl i’r cwmni tai ddweud eu bod nhw wedi cael caniatâd i ddefnyddio’r cladin ond eu bod yn barod i’w adnewyddu serch hynny.

Mewn llythyr at gwsmeriaid, dywedodd Bellway eu bod yn “ddatblygwyr cyfrifol”, ac y byddai’r gwaith adnewyddu’n dechrau haf nesaf er mwyn “tawelu meddyliau” eu cwsmeriaid.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud eu bod yn falch na fydd rhaid i gwsmeriaid dalu am y gwaith.

Mae pryderon am gladin ar adeiladau wedi’u hamlygu yn dilyn y tân yn Nhwr Grenfell yn Llundain y llynedd.