Mae dyn 20 oed wedi cael ei arestio yn dilyn ymosodiad difrifol yn ardal Waunadda (Adamsdown) yng Nghaerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw am 3.40 brynhawn dydd Mawrth (23 Hydref) yn dilyn adroddiadau bod llanc 16 oed wedi cael ei anafu.

Cafodd y llanc ei gludo i’r ysbyty, ond dydy e ddim wedi cael ei anafu’n ddifrifol.

Mae dyn 20 oed yn cael ei holi yn y ddalfa ar amheuaeth o ymosod.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.