Mae’r bachgen teirblwydd a gafodd ei ladd mewn damwain ar fferm ger Llanybydder, wedi’i enwi’n lleol.

Roedd teulu Efan Lloyd Williams yn hanu o ardal Gorsgoch, Ceredigion, ac yn cadw tir rhent yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw toc cyn 4.30yp ddydd Sul (Hydref 21) yn dilyn adroddiadau bod plentyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan gerbyd ar eiddo preifat ger Llanybydder.