Bydd £4m yn cael ei wario er mwyn adeiladu dros 30 o gartrefi eco mewn ardal yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd ‘Pentref Gardd Porth Tywyn’ yn cynnwys 22 o gartrefi teuluol a deg o fflatiau ar dir ger y pentref glan y môr.

Cwmni tai newydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, sef Cartrefi Croeso, sy’n gyfrifol am y datblygiad, a’r nod yw dechrau ar y gwaith mor gynnar â gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Bydd y tai eu hunain yn cynnwys nodweddion eco-gydnaws, fel paneli haul a phren sydd wedi’u cynhyrchu yng Nghymru.

Bydd y nodweddion hyn yn help i breswylwyr arbed £1,000 y flwyddyn o ran costau, meddai Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Buddsoddi

“Mae hyn yn newyddion gwych, a bydd yn golygu y gall teuluoedd lleol elwa ar dai cost isel y gellir eu haddasu’n llawn,” medda’r Cynghorydd Linda Evans, sy’n aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai.

“Sefydlwyd Cartrefi Croeso gennym i gynnig dewis arall i deuluoedd yn lle tai cymdeithasol ac i fanteisio ar sgiliau cwmnïau lleol.

“Mae’r datblygiad hwn yn ddechrau gwych, ac mae’n dangos ein hymrwymiad i gefnogi pobol, cymunedau a busnesau lleol.”