Mae’r heddlu’n ymchwilio i farwolaeth plentyn tair oed a fu farw yn Sir Gaerfyrddin dros y penwythnos.

Cafodd yr heddlu eu galw toc cyn 4:30yh ddydd Sul (Hydref 21) yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng cerbyd a phlentyn ar eiddo preifat ger Llanybydder.

Bu farw’r plentyn yn y fan a’r lle.

Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch a Swyddfa’r Crwner wedi cael ei hysbysu am y digwyddiad.