Mae cwest i farwolaeth tad a phump o’i blant mewn tân yn Llangamarch y llynedd, yn dweud bod yr achos yn parhau’n “ddirgelwch”.

Bu farw David Cuthbertson, 68, a phump o’i blant, mewn ffermdy yn Llangamarch ar Hydref 30, 2017.

Fe glywodd cwest yn Neuadd y Dref, y Trallwng ddoe (dydd Llun, Hydref 22) fod yna fwy nag un achos posib, a’i bod yn bosib iawn i’r fflamau gynnau mewn llosgydd pren.

Mae’r crwner wedi penderfynu mai marw o anadlu mwg wnaeth y tad a’i bump o blant.