Mae naw o bob deg o ddarlithwyr a staff colegau addysg bellach yng Nghymru wedi pleidleisio o blaid cerdded allan tros dâl a llwyth gwaith.

Mae 91% o aelodau Undeb Prifysgol a Choleg (UCU) wedi cefnogi streic tros gyflogau,  a 91% hefyd o blaid cynnal streic oherwydd llwyth gwaith.

Fe gododd yr anghydfod ar ôl i gorff ymbarel Colegau Cymru wrthod cais yr undeb am godiad cyflog o 7.5% (neu £1,500 y flwyddyn) gan gynnig codiad o 1% yn ei le.

Gwrthododd Colegau Cymru hefyd i drafod llwyth gwaith darlithwyr a staff wrth i’r ffrae ynglŷn â chyflogau fynd rhagddi.

“Rhwystredigaeth”

“Mae’r canlyniad yn dangos nad yw staff yn barod i sefyll yn ôl a gwylio eu tâl a’u amodau yn dirywio,” meddai Margaret Phelan o’r UCU.

“Nid yw cynnig cyflog 1% yn gwneud dim i fynd i’r afael â’r modd y mae cyflog coleg yn dirywio, ac mae gwrthod mynd i’r afael â phryderon llwyth gwaith wedi gadael yr aeoldau’n rhwystredig iawn.”

Pwy fydd ar streic?

  • Coleg Pen-y-bont ar Ogwr a Phencoed
  • Coleg Caerdydd a’r Fro
  • Coleg Cambria (Llysfasi, Iâl a Glannau Dyfrdwy)
  • Coleg Merthyr
  • Coleg Gŵyr Abertawe
  • Coleg Gwent
  • Grŵp Llandrillo Menai
  • Coleg y Cymoedd
  • Coleg Sir Benfro
  • Grŵp Castell-Nedd Port Talbot
  • Coleg Sir Gaerfyrddin
  • Coleg Ceredigion