Heddiw (dydd Mawrth, Hydref 23), fe fydd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, yn cyhoeddi mesurau newydd er mwyn i Gymru allu ail-gylchu mwy o’i sbwriel.

Fe fydd £50m o arian cyfalaf yn cael ei ddarparu dros y tair blynedd nesaf i helpu i newid gwasanaethau ac i ddarparu “seilwaith newydd” yng Nghymru.

Mae hynny’n golygu cyflwyno ymgyrch newid ymddygiad a gorfodi, gwerth £500,000, trwy weithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol a WRAP. Mae astudiaethau diweddar yn dangos bod modd ailgylchu mwy na hanner y gwastraff sy’n cael ei roi mewn biniau du yng Nghymru.

Bydd £15.5m ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i wella casgliadau ym Mro Morgannwg, Sir Benfro a Sir Ddinbych.

Ar hyn o bryd, mae trefi Cymru yn ail-gylchu 63% o’u gwastraff, ar gyfartaledd, o gymharu â’r targed cenedlaethol o 58%.