Fe lwyddodd Ffederasiwn Cenedlaethol y Clybiau Ffermwyr Ifanc (NFYFC) i oroesi pleidlais o ddiffyg hyder dros y penwythnos, ar ôl i “fwyafrif clir” ar gyngor yr aelodau ddweud nad oedden nhw o blaid cael gwared â bwrdd rheoli’r corff.

Fe adroddodd y wefan hon ddechrau’r mis fod un sir yn Lloegr wedi bwriadu chwalu’r corff ymbarél sy’n cynrychioli Clybiau Ffermwyr Ifanc yng Nghymru a Lloegr drwy gynnal pleidlais o ddiffyg hyder ynddo.

Daw hyn yn dilyn anniddigrwydd aelodau tuag at y penderfyniad i beidio â chynnal penwythnos y Cyfarfod Cyffredinol yn Blackpool a Torquay byth eto. Mae peryg y bydd y corff ‘cenedlaethol’ yn colli £200,000 o incwm yn sgil y cam.

Ond er i gynnig o ddiffyg hyder gael ei roi gerbron cynrychiolwyr o’r ffederasiynau sirol yn Coventry ddydd Sadwrn (Hydref 20), fe bleidleisiwyd o blaid cefnogi bwrdd rheoli a thîm swyddfa’r NFYFC.

Pleidlais

“Fe bleidleisiodd Cyngor Ffederasiwn Cenedlaethol y Ffermwyr Ifanc o blaid cefnogi ei Fwrdd Rheoli a’i Dîm Swyddfa yn ystod cyfarfod o’r Cyngor yn Coventry ar Hydref 20, 2018,” meddai llefarydd ar ran y corff.

“Fe bleidleisiodd fwyafrif clir (83%) o aelodau’r Cyngor a oedd yn bresennol, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Ffederasiynau sirol ledled Cymru a Lloegr, yn erbyn y cynnig o ddiffyg hyder yn y Bwrdd.”

Mae golwg360 wedi derbyn cadarnhad gan yr NFYFC mai Swydd Hampshire a gyflwynodd y cynnig yn ystod y cyfarfod, gyda Swydd Efrog wedyn yn ei gefnogi.

Mae gan Ffederasiwn Cenedlaethol y Clybiau Ffermwyr Ifanc gyfanswm o 24,587 o aelodau, gyda 5,188 o’r rheiny yn perthyn i 12 ffederasiwn sirol yng Nghymru.