Fe fydd cwest i farwolaethau dyn a’i bump o blant mewn ffermdy yn Llangamarch y llynedd, yn digwydd heddiw (dydd Llun, Hydref 22) ym Mhowys.

Bu farw Dave Cuthbertson, 68, yn y fflamau, ynghyd â’i blant,  Just Raine, 11; Reef Raine, 10; Misty Raine, 9; a Patch Raine, 6 a Gypsy Grey Raine, 4.

Roedd gartref gydag wyth o’i blant pan gynheuodd y tân yn Poityn Farm, Llangamarch ar Hydref 30.

Fe lwyddodd tri o’r plant i ddianc o’r adeilad a rhoi gwybod i gymdogion am yr hyn oedd yn digwydd, ond bu farw’r pump arall a’u tad.

Roedd yn rhaid defnyddio profion DNA i adnabod corff Dave Cuthbertson, a oedd yn hanu o’r Alban.

Fe fydd y cwest yn cael ei gynnal yn Neuadd y Dref, Y Trallwng, ac mae disgwyl iddo bara diwrnod.