Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad rhyw yn ninas Casnewydd yn oriau mân dydd Sul (Hydref 21).

Fe ddigwyddodd ger mynedfa i faes parcio rhwng Heol Cambrian a Stryd yr Orsaf yn ardal Queensway rhwng 3.30yb a 4yb.

Ymosododd dyn ar ddynes yn ei 30au, sydd bellach yn cael cefnogaeth gan yr heddlu.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad â dwy ddynes oedd wedi helpu’r ddynes i mewn i dacsi ar ôl yr ymosodiad. Roedd gan y naill wallt byr, a’r llall yn gwisgo top du heb strapiau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.