Union 52 o flynyddoedd yn ôl i heddiw (dydd Sul, Hydref 21), cafodd 116 o blant a 28 o oedolion eu lladd yn nhrychineb glofaol Aberfan.

Cafodd Ysgol Gynradd Pant-glas ei tharo gan filoedd o dunnelli o wastraff glo ar fore gwlyb yn y gymuned lofaol ger Merthyr Tudful.

Cafodd yr ysgol a 18 o dai eu claddu ac ymhlith y rhai fu farw roedd nifer o athrawon yr ysgol a’r brifathrawes Miss Jennings, wrth i nifer ohonyn nhw geisio cysgodi’r plant.

Y Bwrdd Glo Gwladol gafodd y bai am y digwyddiad yn dilyn gwrandawiad tribiwnlys, a nifer fawr o bobol yr ardal yn eu beio am eu “hanallu”.

Cofio

Mae Cymru wedi bod yn cofio’r digwyddiad ar y gwefannau cymdeithasol heddiw.