Bydd Carwyn Jones yn cyfarfod arweinwyr cynghorau sir Llafur yr wythnos nesa’, er mwyn trafod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.

Arweinwyr Cyngor Llafur yn unig sydd wedi cael eu gwahodd, yn ôl adroddiadau, ac mae disgwyl bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yno yn ogystal â’r Prif Weinidog.

Cafodd y gyllideb ddrafft ei gyhoeddi ar ddechrau’r mis, a dan gynlluniau’r ddogfen mi fyddai cynghorau sir Cymru yn derbyn toriadau i’w cyllid.

Dim ond saith cyngor fydd ddim yn derbyn toriad, ac mae chwech o’r rheiny yn cael eu harwain gan y Blaid Lafur.

Llygredd

“Mae ehofndra’r cyfarfod yma yn warthus,” meddai arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Paul Davies.

“Dyw Llywodraeth Cymru ddim hyd yn oed yn trio cuddio’r ffaith eu bod yn eu ffafrio cynghorau sir penodol… dylai bod gan bob cyngor y cyfle i gyflwyno eu hachos, nid cynghorau Llafur yn unig”

“Rhaid i Lywodraeth Cymru naill ai ganslo’r cyfarfod, neu roi gwahoddiad i weddill awdurdodau Cymru. Mae pobol yn blino â llygredd Llafur Cymru.”

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar ddydd Llun (Hydref 22).

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.