Mae disgwyl y bydd 100,000 o bobol yn gorymdeithio yn erbyn Brexit yn Llundain yfory, a bydd Cymry yn eu plith.

Dyma fydd y brotest fwyaf eto yn galw am ail refferendwm ar aelodaeth gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Ac mae cwmni teledu o Gaernarfon yn noddi bws i fynd â phobol i Lundain ar gyfer gorymdaith Pleidlais Y Bobol.

Yn ôl Dylan Huws o Gwmni Da mae gan y busnes “nifer o bartneriaethau busnes Ewropeaidd” ac “mae Brexit yn fygythiad i’r cysylltiadau yma ac yn peryglu ffynhonnell o waith ac incwm i’r cwmni.

“Pleidleisiodd Gwynedd yn erbyn Brexit ac mae pobol dal yn gryf o blaid bod yn rhan o’r gymuned a’r farchnad Ewropeaidd.

“Mae noddi bws yn un ffordd ymarferol o gefnogi’r orymdaith sy’n galw am bleidlais arall ar y mater.”

Cychwyn am bump y bore

Fe fydd y Cynghorydd Aaron Wynne, sy’n cynrychioli Llanrwst yn enw Plaid Cymru ar Gyngor Sir Conwy, ar y bws fydd yn cychwyn o Gaernarfon am bump o’r gloch y bore.

“Rydan ni i gyd yn cyfarfod yn Hyde Park fel ein bod yn gallu cael criw mawr o Gymry i ddangos beth yw’r gefnogaeth yng Nghymru.

“Mae angen cael pleidlais i’r bobol – mae’r ffeithiau wedi newid,” meddai Aaron Wynne.

Yn ôl dadansoddiad papur newydd The Evening Standard o 150 o bolau piniwn, mae mwyafrif o bobol gwledydd Prydain eisiau aros yn yr Undeb Ewropeaidd erbyn hyn.