Mae teulu dyn 67 oed a fu farw o ganlyniad i ddamwain a gafodd mewn cartref gofal yng Nghaerfyrddin, yn dweud mai ei “etifeddiaeth” fydd sicrhau bod gwell gofal ar gael i bobol fregus ac anabl.

Daeth cwest i farwolaeth Heddwyn Hughes, a oedd yn breswylydd yng nghartref gofal Bro Myrddin, i’r casgliad bod y system ofal wedi’i “fethu”.

Casglodd y cwest nad oedd staff y cartref wedi rhoi’r gofal na’r driniaeth briodol i’r gŵr – a oedd ag anableddau dysgu – wedi iddo syrthio i’r llawr a thorri ei wddf ym mis Mai 2015.

Maen nhw hefyd yn dweud nad oedd Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi ymateb yn ddigon cyflym wedi’r digwyddiad, na chyfathrebu digon â meddyg teulu Heddwyn Hughes.

Gwella gofal a diogelwch

“Yng nghanol hyn oll, mae fy mrawd Heddwyn, a oedd yn cael ei garu’n fawr, ac a oedd angen cymaint o gefnogaeth,” meddai Moelwen Gwyndaf, chwaer Heddwyn Hughes.

“Ei etifeddiaeth yw y bydd yna weithdrefnau ar waith er mwyn sicrhau diogelwch a gofal i oedolion bregus eraill sydd yng ngofal y wladwriaeth, ac sydd yn anabl, i ddweud beth sydd wedi digwydd iddyn nhw.

“Hoffwn ddiolch i’r Crwner a’r Rheithgor am eu hymchwiliad trylwyr.”

Cefndir

Anafwyd Heddwyn Hughes ar Fai 6, 2015, tra’r oedd yn dychwelyd i’w stafell wely ar ôl cerdded o’r ystafell ymolchi gydag aelod o staff.

Wedi iddo gwympo i’r llawr, daeth i sylw staff fod y gŵr 67 oed yn methu defnyddio’i freichiau na’i goesau.

Bu’n rhaid iddo aros tua phedair awr cyn cael ei weld gan weithiwr meddygol proffesiynol, a daeth i’r amlwg ei fod wedi torri ei wddf.

Bu farw yn yr ysbyty bum mis a hanner yn ddiweddarach.