Derwen yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi ei choroni yn Goeden Gymreig y Flwyddyn, yn dilyn pleidlais gyhoeddus.

Daeth i’r amlwg ar raglen The One Show ar BBC1 neithiwr mai Derwen Pwllpriddog yn Rhandirmwyn a ddaeth i’r brig yng Nghymru, yn y gystadleuaeth sy’n cael ei threfnu gan Goed Cadw.

Yn ôl arbenigwyr, mae’r dderwen tua 600-700 oed, ac mae lle i gredu ei bod wedi’i phlannu er mwyn coffáu Brwydr Maes Bosworth yn 1485.

Bydd £1,000 o arian loteri yn cael ei wario er mwyn diogelu’r goeden ar gyfer y dyfodol.

“Enillydd teilwng iawn”

Yn ôl Clare Morgan, llefarydd ar ran Coed Cadw, mae Derwen Pwllpriddog yn enillydd “teilwng iawn”.

“Mae’n un o lawer o goed hynafol yng Nghymru sy’n sefyll o fewn hen wrychoedd ffiniau ac sydd o bwysigrwydd enfawr o ran bywyd gwyllt, hanes a diwylliant,” meddai.

“Yn wir, rydan ni mor benderfynol i ddiogelu ac adfer y cynefinoedd hyn fel rydan ni wedi gweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus i sefydlu’r prosiect y Goedwig Hir, gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Sefydliad Esme Fairburn.”

Cafodd gwobrau tebyg eu dyfarnu ar gyfer coedydd yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Coeden hynafol

Ceubren yw’r dderwen, a chan fod ei bôn mor fawr (8.4 metr), mae modd sefyll yn ei chanol.

Mae’r dafarn leol, sef y Royal Oak, wedi cael ei henwi ar ei hôl, ac mae’n debyg bod y dderwen wedi bod yn fan cyfarfod poblogaidd i gariadon ar hyd y canrifoedd.

Bu ffermwr lleol hefyd yn defnyddio’r safle fel cysgod i foch ar un adeg, ac erbyn hyn mae ei hwyaid yn clwydo yno.