Mae un o Aelodau’r Cynulliad a’r naturiaethwr Iolo Williams wedi codi cwestiynau am Gadeirydd newydd Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd wedi ei benodi gan Lywodraeth Cymru.

Yn gyfrifol am faterion cadwraeth a’r amgylchedd, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru 1,900 o weithwyr ac mae yn cael £180m y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru.

Yn dilyn penodiad David Henshaw yn Gadeirydd dros dro ar Gyfoeth Naturiol Cymru, mae’r Aelod Cynulliad Llŷr Gruffydd wedi holi “Ai dyma’r dyn iawn ar gyfer y job?”

“Dim profiad”

Mae’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi codi cwestiynau am gefndir y Cadeirydd newydd, gan honni fod ganddo “ddim profiad” o weithio ym maes yr amgylchedd.

Yn ogystal, mae’n dweud bod gan David Henshaw gefndir “dadleuol”, ac wedi cwestiynu os bydd yn medru arwain y corff at “ddyfroedd tawelach”.

“Roedd yn Brif Weithredwr ar Gyngor Dinas Lerpwl, ond bu’n rhaid iddo adael dan gwmwl yn 2006 dros honiadau am ddogfennau yn dod i law Llywodraeth y Deyrnas Unedig heb ganiatâd,” meddai Llŷr Gruffydd.

“Yn ystod yr un flwyddyn, cafodd ei benodi’n Brif Weithredwr ar Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Orllewin Lloegr.

“Yn sgil hyn, gwnaeth 22 Aelod Seneddol arwyddo llythyr yn dweud eu bod methu gweithio ag ef …

“A gwnaeth Comisiynydd Heddlu a Throsedd Glannau Merswy, Jane Kennedy, ddweud nad oedd ganddi hyder ynddo, na pharch amdano.”

Ymateb y naturiaethwr Iolo Williams i’r penodiad:

Sgandalau

Cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei sefydlu yn 2013 yn sgil uniad tri chorff arall, ac mae ganddyn nhw gyfrifoldebau tros faterion cadwraeth a’r amgylchedd yng Nghymru.

Ers cael ei ffurfio, mae’r corff wedi ennyn tipyn o feirniadaeth yn dilyn cyfres o sgandalau – gan gynnwys sgandal trwyddedau saethu – ac mae cwestiynu wedi’u codi ynglŷn â’u heffeithiolrwydd.

Ymddiswyddodd Cadeirydd blaenorol y sefydliad, Diane McCrea, yn dilyn sgandal gwerthiant coed, a arweiniodd at gostau i’r trethdalwr.

Llywodraeth Cymru sydd yn ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru, a nhw sy’n gyfrifol am benodi cadeiryddion y corff.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Er i golwg360 holi, wnaeth Llywodraeth Cymru ddim ymateb i’r pryderon am ddiffyg profiad David Henshaw.

Ond mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd: “Dyma swydd am 12 mis lle y bydd holl brofiad David Henshaw ym maes llywodraethiant yn cael ei ddefnyddio.

“Mae’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus wedi cymeradwyo’r penodiad hwn. Bydd y gwaith o recriwtio cadeirydd parhaol yn cychwyn ar ddechrau gwanwyn 2019.”