Cyngor Wrecsam yw’r olaf o gynghorau sir y gogledd i roi’r gorau i ddefnyddio cwmni dadleuol i ddirwyo pobol am daflu sbwriel a pheidio hel baw ci.

Bu cwynion gan y cyhoedd am dactegau brwd a bachog swyddogion gorfodaeth Kingdom, ac mae cylchgrawn Golwg wedi datgelu bod nifer o gynghorau sir bellach un ai wedi, neu’n mynd drwy’r broses o wneud y gwaith eu hunain.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw’r diweddaraf i benderfynu dod â’r berthynas waith efo Kingdom i ben.

Cwmni preifat o Loegr yw Kingdom Services Group ac maen nhw’n cynnig gwasanaeth i gynghorau heb godi’n uniongyrchol arnyn nhw, ond gan gael yr hawl i ddirwyo’r cyhoedd am fân droseddau a rhoi cyfran o’r ddirwy i’r cynghorau sir.

Pwyso

Mae grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Wrecsam wedi bod yn pwyso ar yr arweinwyr ers mis Gorffennaf i roi’r gorau i ddefnyddio Kingdom, medd eu harweinydd.

“Fe fydd y cytundeb yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn,” meddai’r Cynghorydd Marc Jones.

“Y bwriad oedd taclo problemau sbwriela a baw ci yn y sir. Ond y gwir amdani ydi fod Kingdom wedi targedu pobol oedd yn gollwng stympiau sigaréts ynghanol y dre. Roedd 92% o’r dirwyon oherwydd hyn – a tua thraean yn fy ward i.”

Y gosb gan swyddogion gorfodaeth Kingdom yn Wrecsam oedd dirwy o £75, gyda’r cwmni yn cadw £42.50.

Tros 10,000 yn gwrthwynebu Kingdom

Ym mis Awst eleni fe ddaeth y cytundeb rhwng Cyngor Conwy a Kingdom – oedd â’r hawl i roi dirwy o £75 am daflu sbwriel a £100 am gŵn yn baeddu – i ben.

Mae cylchgrawn Golwg wedi siarad efo dyn busnes o’r sir sydd wedi bod yn ymgyrchu ers dwy flynedd yn erbyn dulliau gweithredu rhai o weithwyr Kingdom.

Fe sefydlodd Peter Rourke dudalen Facebook o’r enw North Wales Against Kingdom sydd bellach yn hawlio 10,200 o aelodau.

“Y broblem fawr yma yw bod cynghorau yn brin o arian ac mae Kingdom yn dod atyn nhw ac yn dweud: ‘peidiwch â phoeni, wnawn ni edrych ar ôl eich [problemau] cŵn yn baeddu, sbwriel, tipio anghyfreithlon … ac fe wnawn ni hynny am ddim’.”

Ond roedd y cwmni yn pigo ar dargedau diniwed, yn ôl Peter Rourke.

“Dywedodd hen wreigan wrtha’ i ei bod wedi cael rhybudd o gosb benodedig am fod â chi oddi ar dennyn mewn ardal lle’r oedd hynny’n cael ei ganiatáu!”

Er i gylchgrawn Golwg ofyn, ni chafwyd ymateb gan gwmni Kingdom i’r stori.

Hanes Kingdom yn holl siroedd y gogledd a’r de yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg