Mae dynes 51 oed yn ddifrifol wael ar ôl cael ei tharo gan fws yn Abertawe ddoe (Hydref 18). 

Bu’r digwyddiad ar Heol Ystumllwynarth (A4067) toc wedi wyth y bore, lle cafodd y ddynes ei tharo gan fws a oedd yn teithio ar ddarn o’r ffordd sydd wedi’i neilltuo i fysiau. 

Cafodd ei chludo yn syth i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle mae’n parhau mewn cyflwr difrifol. 

Mae’r heddlu’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.