Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn galw am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn y llifogydd mawr y penwythnos diwethaf.

Yn ôl yr awdurdod lleol, mae disgwyl i’r difrod a gafodd ei wneud i ffyrdd y sir gostio tua £3m.

Mae pob ffordd a phont yn Sir Gaerfyrddin bellach wedi’u hailagor, heblaw am yr A485 yng Nghwmduad, lle cafodd Corey Thomas Sharpling, 21, ei ladd mewn tirlithriad.

Cafodd cronfa gwerth £100,000 ei sefydlu gan y Cyngor yn syth wedi’r storm, er mwyn cefnogi trigolion a gafodd eu heffeithio. Mae cronfa ychwanegol gwerth £200,000 ar gael ar gyfer busnesau’r sir hefyd.

Ond yn ôl Arweinydd y Cyngor, Emlyn Dole, mae angen rhagor o gymorth, gyda disgwyl i’r gost o glirio ac adfer fod yn “filiynau o bunnau”.

“Dengys ein hasesiad cychwynnol o’r seilwaith priffyrdd fod angen gwneud gwerth tua £3m o atgyweiriadau yn y maes hwnnw’n unig,” meddai Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor.

“Er ein bod ni eisoes wedi sicrhau bod dwy gronfa galedi ar gael yn syth i gartrefi a busnesau, rydym bellach yn galw am gymorth Llywodraeth Cymru i ofalu bod adnoddau priodol ar gael.”