Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i Amber Southan, 12 oed o Abertawe, fynd ar goll ddydd Mawrth yr wythnos hon (Hydref 16).

Cafodd ei gweld amser cinio yn mynd i mewn i Barc Singleton, ychydig filltiroedd o’i chartref yn Blackpill.

Mae hi’n bum troedfedd o daldra, ac mae ganddi wallt brown cyrliog a llygaid glas. Mae hi o gorffolaeth denau.

Pan gafodd ei gweld ddiwethaf, roedd hi’n gwisgo jîns du, top glas, crys-T gwyn a chôt ddu.