Rhodri Glyn Thomas
Mae Comisiwn y Cynulliad wedi lansio ymgynghoriad gan alw ar bobol Cymru i “ddweud eu dweud” am eu cynllun dwyieithog newydd.

Bydd gweithdai’n cael eu cynnal mewn gwahanol rannau o Gymru y mis hwn er mwyn caniatáu i gynifer o bobl â phosibl gael rhoi eu barn am y cynigion.

Bydd Bil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) yn gwneud darpariaeth ar gyfer y defnydd o Gymraeg a Saesneg yn nhrafodion y Cynulliad a busnes Comisiwn y Cynulliad.

Mae’r bil eisoes wedi ei feirniadu gan ymgyrchwyr iaith am nad yw’n mynnu fod y Cynulliad yn cyfieithu’r Cofnod i’r Gymraeg.

Mae Comisiwn y Cynulliad eisoes wedi dweud eu bod nhw’n ystyried ffyrdd o gyfieithu’r cofnod, a hynny o bosib gan ddefnyddio cyfieithu peiriant i gyflymu’r broses.

Rhodri Glyn Thomas AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, a Keith Bush, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol y Cynulliad, fydd yn cadeirio’r sesiynau.

“Mae’r ddeddfwriaeth ddrafft a’r cynllun iaith arfaethedig yn cadarnhau ein hymrwymiad i ddatblygu gwasanaethau dwyieithog mewn ffordd arloesol i sicrhau bod trafodion a gwaith y Cynulliad mor hygyrch â phosibl i bawb yng Nghymru,” meddai Rhodri Glyn Thomas.

“Fel rhan o’n hymrwymiad, rydym am glywed barn cynifer o bobl â phosibl, o bob rhan o Gymru. Dyna pam ein bod yn cynnal y sesiynau hyn mewn gwahanol rannau o’r wlad.”

Bydd cyfnod yr ymgynghoriad yn parhau drwy fis Medi, a disgwylir i’r Bil a’r Cynllun fod yn barod i’w hystyried gan y Cynulliad tua diwedd y flwyddyn.

Gellir gweld y Bil a’r Cynllun drafft yma.

Cynhelir y gweithdai ar y dyddiau canlynol:

26 Medi yn swyddfeydd y Cynulliad, Rhodfa’r Tywysog, Bae Colwyn, rhwng 9.30 a 11.30

26 Medi yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, rhwng 15.00 a 17.00

28 Medi yn y Pierhead, Bae Caerdydd, rhwng 9.30 a 11.30.

Ar ôl cyflwyniad gan y Comisiynydd, bydd aelodau’r gynulleidfa’n gallu gofyn cwestiynau.

Gall aelodau’r cyhoedd archebu lle yn y gynulleidfa ar gyfer unrhyw un o’r sesiynau drwy alw llinell archebu’r Cynulliad ar 0845 0105500.