Bydd mwy na £350m yn cael ei fuddsoddi er mwyn ceisio atal llifogydd ac erydiad arfordirol yn y dyfodol, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Daw hyn yn sgil Storm Callum dros y penwythnos, pan gafodd nifer o ardaloedd yn ne-orllewin Cymru eu taro gan y llifogydd gwaethaf ers 30 mlynedd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal adolygiad o’r holl amddiffynfeydd llifogydd yn yr ardaloedd hyn.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yna gymorth ariannol ar gael i gymunedau a busnesau sydd wedi’u heffeithio.

Buddsoddiad newydd

“Dros dymor y Llywodraeth hon, byddwn yn neilltuo dros £350m i awdurdodau lleol ledled Cymru ac i Cyfoeth Naturiol Cymru i leihau perygl llifogydd ac erydiad arfordirol,” meddai Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn.

“Nid ydym yn gwybod eto beth fydd pen draw effeithiau’r llifogydd hyn, ond rydyn ni’n clywed hefyd sut mae ein buddsoddiadau diweddar wedi rhwystro neu leihau effeithiau’r llifogydd…

“Ar ôl unrhyw lifogydd mawr, mae gofyn i awdurdodau ymchwilio i’r achos a’r effeithiau, a chyhoeddi adroddiad.

“Bydd awdurdodau lleol yn gweithio gydag Awdurdodau Rheoli Risg eraill gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru i ddeall effeithiau llawn y llifogydd a’r gwersi sydd yna i ddysgu.”